<< Back

This job listing is no longer active.
Please use our Environment Jobs Search to find current vacancies.

Title

Wardeiniaid Cynorthwyol Tymhorol - Sir Benfro / Assistant Warden Seasonal

Posted
Reference   (Please mention Stopdodo/Environment Jobs in your application)
Sectors Terrestrial / Aquatic Ecology & Conservation
Location Wales (West) - UK
Salary Additional Information £9.62 yr awr, llawn-amser, dros dro, Tachwedd 2020 - Mawrth 2021
Salary (Minimum)
0
Salary (Maximum)
0
Type Temporary / Contract / Seasonal
Status Full Time
Level First Level
Deadline 11/10/2020
Company Name Pembrokeshire Coast National Park
Contact Name
Website Further Details / Applications
Pembrokeshire Coast National Park  logo
Also Listing:
Description

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymfalchïo yn y cyfoeth o lefydd gwych sydd yn ardal y Parc i’w harchwilio a’u mwynhau. Mae’r arfordir trawiadol yn cynnig traethau aur diogel sy'n ddelfrydol i deuluoedd, cannoedd o filltiroedd o lwybrau troed, yn ogystal â chlogwyni garw a childraethau creigiog diarffordd.

Fel rhan o'n rhaglen ar gyfer gaeaf 2020/21, rydym yn awr yn recriwtio Wardeiniaid Cynorthwyol Tymhorol i weithio yn yr awyr agored yn y Parc Cenedlaethol fel rhan o dîm bach, yn helpu i gynnal Llwybr Arfordir Sir Benfro a'r rhwydwaith ehangach o lwybrau, yn ogystal â chynnal yr amrywiol safleoedd sy’n eiddo i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol ac a reolir gan yr Awdurdod.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau;
• Mae'r gwaith yn bennaf yn golygu cynnal a chadw’r celfi sydd ar hawliau tramwy ar Lwybr yr Arfordir a’r rhwydwaith o lwybrau mewndirol, gan gynnwys gatiau, grisiau, arwyddion ac arwynebau llwybrau yn ôl y gofyn.
• Cynnal a gwasanaethu offer a pheiriannau a ddefnyddir yn ystod eich gwaith bob dydd.
• Torri llystyfiant drwy ddefnyddio amrywiaeth o beiriannau, gan gynnwys troedffustiau, peiriant torri prysgwydd a pheiriant tocio gwrychoedd.

Bydd ymgeiswyr delfrydol;
• Â phrofiad mewn tasgau rheoli cefn gwlad a chadwraeth ymarferol, gan gynnwys codi a gosod arwyddion, dodrefn mynediad megis gatiau, sticlau, ffensys, cloddiau ac ati.
• Yn gallu gwneud gwaith sylfaenol o wasanaethu ac atgyweirio offer a chyfarpar (yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol).
• Yn meddu ar dystysgrifau ar gyfer defnyddio peiriannau torri prysgwydd, peiriannau torri porfa a pheiriannau perthnasol eraill (yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol) ac yn yr un modd NVQ lefel 2 neu’r cyfatebol mewn cadwraeth neu reolaeth cefn gwlad.
• Yn meddu ar drwydded yrru lawn. Mae'r gallu i dynnu ôl-gerbydau yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Mae dwy swydd ar gael i weithio yn yr ardaloedd canlynol;
• Ardal y Gogledd - yn atebol i Gilrhedyn, a’r gwaith yn cwmpasu Bryniau'r Preseli a'r arfordir o Abergwaun i Landudoch.

• Ardal y De - yn atebol i Milton, a’r gwaith yn cwmpasu'r Daugleddau, Angle, Dinbych-y-pysgod i Amroth.

Darperir yr holl offer, gwisg swyddogol, esgidiau ac offer amddiffynnol.
Dyddiad Cau: 11 Hydref 2020

APPLY HERE

Add to My Account
<< Back